Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

16.5.13

Byd y Teledu


Mae dau frawd o Heol y Cyrnol wedi bod yn brysur yn ddiweddar o flaen y camerau. Iestyn, mab ieuengaf Andrea a Dafydd Jones yw un o’r wynebau a welwyd ar hysbyseb “Western Power”, yn gwisgo cot a helmet ei “dad”. Roedd yn ddiddorol darllen yng nghylchgrawn y cwmni, sut y gwnaethpwyd yr hysbyseb.
Dechreuwyd ar y cynllun ym mis Ionawr 2012, adeiladwyd pentref dychmygol mewn stiwdio, trefnwyd cyfweliadau ar gyfer y “tad” a’r “mab” ac yna bu’r golygfeydd allanol yn ardal Caerffili – tipyn o broses technegol yn ôl yr erthygl. Gyda llaw, os am weld y pentref model, ewch i’r Sioe Amaethyddol, Llanelwedd - cewch weld y trên yn symud drwy’r twnel.

Mae Gruffudd, y brawd hyn, sy’n ddisgybl ym Maes yr Yrfa, hefyd wedi bod ym myd y teledu yn ystod y misoedd diwethaf yn “Casualty”, “Pobol y Cwm” ac yn y gyfres sydd newydd ddechrau, sef “Gwaith Cartref”. Dymuniadau gorau i’r ddau ohonynt.

Masnach Deg

Bu nifer o aelodau Capel Newydd yn dathlu’r pumed “Banana Split” yn yr Arcade. Daeth tua 200 i fwynhau yr arlwy ac i estyn croeso i ffermwraig bananas masnach deg o St Lucia. Diolch i bawb a fu’n gysylltiedig yn y trefnu ac i’r ffermwraig Sandra Joseph am egluro sut oedd masnach deg yn gweithio yn St Lucia. Gweler dau o blant yr Ysgol Sul, Joshua a Sara, yn mwynhau yng nghwmni Sandra.

13.5.13

Cylch meithrin Y Betws


Yn ddiweddar, daeth llyfryn i’m meddiant, trwy law caredig Shân Jones, yn olrhain hanes sefydlu’r cylch. Am beth amser, yn y saith degau, bu rhai o famau y pentref yn sôn am ddechrau Cylch Meithrin yn y Betws, yn hytrach na theithio i Rydaman neu Garnswllt. Felly, cynhaliwyd cyfarfod i drafod y syniad yng nghwmni Anne Roberts, swyddog datblygu Mudiad Ysgolion Meithrin. Roedd ganddi athrawes, sef Eirwen Stephens, yn barod i ymgymryd â’r gwaith, a dewiswyd swyddogion sef Cadeirydd - Bethan Davies, Ysgrifenyddes - Vicky James a Thrysorydd Joyce Wenfold. Penderfynwyd gofyn i flaenoriaid Capel Newydd am logi’r Festri, i gynnal y cylch a rhoddwyd caniatâd i’r cais. Bu’r pwyllgor yn brysur am wythnosau yn codi arian i brynu dodrefn, ac yn y blaen, ac ar fore Mawrth, 19 Ebrill 1977 am 9.30 y bore, agorwyd y cylch, sy’n dal i fynd o nerth i nerth.
Mae’r lluniau yn dangos y plant presennol, ac yna plant 1986 gyda’r athrawes Bethan Thomas, cynorthwywraig Dianne Rees a’r Cadeirydd Bethan Davies. Tybed, a wyddoch pwy yw y plant?

9.5.13

Cinio Llywydd Cenedlaethol Merched Y Wawr



Ddydd Sadwrn, Chwefror 23ain, aeth 35 o aelodau Merched y Wawr o ganghennau Rhydaman, y Gwter Fawr a GwaunGors i westy’r Glyn Clydach yn ardal Castell-nedd i ymuno â dros 200 o aelodau eraill o’r mudiad o Dde Cymru mewn cinio yng nghwmni Llywydd Cenedlaethol y mudiad, sef Gill Griffiths, o gangen Radyr, Caerdydd.

Yn dilyn cinio blasus, croesawyd pawb yn swyddogol i’r cinio gan Lywydd Rhanbarth Gorllewin Morgannwg, Einir Evans, ac fe gyflwynodd ddarlun o’r rhanbarth trwy restru rhai o nodweddion mwyaf amlwg yr ardal - yn hanesyddol, yn ddiwydiannol, yn ddiwylliannol ac wrth gwrs, soniodd am rai o’r enwogion sy’n hannu o’r lle. A hithau wedi cael ei haddysg uwchradd yng Nghastell-nedd, priodol oedd i Gill Griffiths ategu ei barn bersonol am olygfeydd a llefydd i grwydro. Soniodd Gill hefyd am y cyfle a ddaeth i’w rhan i deithio i Ethiopia yn ddiweddar gydag aelod o Gymorth Cristnogol. Dangosodd ffilm fer yn dangos y sefyllfa drist am brinder dˆwr, a’r gwaith caled mae’r gwragedd a’r merched yn y wlad yn dioddef, ond gwelwyd hefyd y newid araf sy’n deillio o waith Cymorth Cristnogol yno. Dyna, wrth gwrs, yw’r elusen sy’n elwa o waith elusennol Merched y Wawr eleni - sef gwerthiant y bagiau di-ri sy’n cael eu cyfrannu gan aelodau o bob cwr o’r wlad.

Wedi’r siarad, daeth cyfle am adloniant - a hynny yng nghwmni Parti’r Grug -sef Heather Jones, ei merch, Lisa, a dwy ffrind, sef Sioned Mair a Sian Jones. Roedd y canu yn soniarus a swynol ac fe gafwyd ambell stori bersonol hefyd, y cyfan yn ychwanegu at fwynhad pawb oedd yn bresennol.
Diwrnod pleserus dros ben - a phawb yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf!

 

8.5.13

Hanner Canfed Tro

Yn ddiweddar daeth daeth Eric a Margaret Harries i gasglu gwaith llaw Cylch Hwyl a Gwaith, Eglwys y Gwynfryn. Cyn ymddeol roedd Eric yn bennaeth y Frigâd Dân yn Aberystwyth, ac wedi gwneud y gwaith o gasglu dillad a bwyd i wledydd fel Bosnia hanner cant o weithiau, ond yn awr mae wedi penderfynu rhoi’r gorau i’r gwaith.
Gan ei fod mor hoff o wlad Bosnia a’i phobl mae wedi prynu ty yno ac o hyn allan bydd yn treulio ychydig o wyliau yno.
Mae’r Cylch Hwyl a Gwaith yn falch bod person arall, sef Richard Burgess o Felinfach, Ceredigion yn parhau â gwaith tebyg yn Romania.
Felly bydd y Cylch sy ychydig yn llai na thri deg o aelodau yn dal i wau a chrosio yn wythnosol yn y festri ar fore Dydd Mawrth.
Da yw nodi bod y Cylch yn dathlu deng mlynedd o fodolaeth ym mis Tachwedd eleni.
Help / Cymorth