Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

22.6.14

Eisteddfod Yr Urdd 2014

Llongyfarchiadau  i holl aelodau’r Urdd yn ardal Glo Mân a fu’n llwyddiannus yn  Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Y Bala yn ddiweddar. Tra’n canmol pob un ohonynt a’u hyfforddwyr, rhaid  cyfeirio’n arbennig at lwyddiant ysgubol Adran ac Aelwyd Penrhyd yn y cystadlaethau Dawnsio Gwerin - pencampwyr yn wir!

Canlyniadau Gwaith Cartref                                                                                                                   Celf,Dylunio a Thechnoleg  
 Gwaith Creadigol  2D Bl.6 ac Iau (Anghenion Arbennig C) 3ydd – Grŵp Quinn ac Owen, Ysgol Bro Banw                                                                                                                                                  
Gwaith Creadigol  2D Bl.6 ac Iau (Anghenion Arbennig D ) 3ydd – Jennesha Davies-Kelly, Ysgol  Bro Banw                                                                                                                                           
Gwaith Creadigol 2D Bl.6 ac Iau – Grŵp (Anghenion Arbennig D) -1af – Grŵp Alex a Mathew, Ysgol Gynradd Blaenau                                                          
Ffotograffiaeth/Graffeg Cyfrifiadurol  Bl.6 ac Iau – 1af – Leah Liles, Ysgol y Bedol
Canlyniadau Llwyfan
Unawd Bl.2 ac Iau  1af – Cadi Owen, Ysgol Gymraeg Rhydaman               
Unawd Cerdd Dant, Bl.2 ac Iau -  3ydd- Cadi Owen, Ysgol Gymraeg Rhydaman                                   Dawns Werin Bl.4 ac Iau – 1af- Adran Penrhyd                                                            
 Unawd Cerdd Dant Bl.3 a 4 -  2il- Cerys Tommason James, Ysgol Gymraeg Rhydaman 
Dawns Stepio Cymysg Bl.6 ac Iau – 2il –Adran Penrhyd
Dawns Werin Bl.6 ac Iau -1af – Ysgol Gymraeg Rhydaman                                                                             Grŵp  Dawnsio Hip Hop/Stryd/Disgo – 2il-  Ysgol Gymraeg Rhydaman 
Dawns Werin Bl.6 ac Iau (Ysg.Adran Fach) -1af – Adran Penrhyd
Dawns Werin Unigol i Ferched Bl. 9 ac Iau  – 2il –Menna Jones, Ysgol Maes y Gwendraeth 
Dawns Werin Bl.7,8,a 9 – 1af Adran Penrhyd                                                                                                 
 Unawd Bechgyn Bl.7-9 – 2il- Osian Clarke,Ysgol Gyfun Dyffryn Aman

Dawns Werin Bl10 a dan 19oed – 2il- Aelwyd Penrhyd
Dawns Werin Unigol i Fechgyn Bl.10 a dan 25 oed – 3ydd  - Harri Jones, Aelwyd Penrhyd   
Dawns Werin dan 25 oed (Aelwydydd) – 1af – Aelwyd Penrhyd

No comments:

Help / Cymorth