Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

11.5.14

only Kids Aloud

Cafodd Lia Rowena Jones, 12 mlwydd oed o Landybïe wedi cael ei dewis yn un o 70 deg o blant sydd yn mynd allan i Dde Affrica gyda chôr ‘Only Kids Aloud’ o dan arweiniad yr enwog Tim Rhys Evans, M.B.E. a’i dîm.
Roedd y Côr yn perfformio mewn theatre ‘Artscape’ yn Cape Town am ddwy noson ym mis Mai fel rhan o ddathliadau y byd democratic (“Celebration of Democracy”).  Roedd Bryn Terfel a Chwmni Cenedlaethol Opera Cape Town yn cymeryd rhan hefyd yn yr un gyngerdd.
Ym mis Gorffennaf bydd Only Kids Aloud yn perfformio mewn cyngerdd “The Spirit of Unity” yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen gyda Gary Griffiths a Chwmni Opera Cape Town, o dan
arweiniad Tim Rhys Evans.
Fel dywedodd Sian, mam Lia, bydd yn fraint i Lia gynrychioli Cymru a phentref Llandybïe. Ie wir. Da iawn Lia
.

No comments:

Help / Cymorth