Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

27.3.14

Cadair i Cellan!


Cynhaliwyd Eisteddfod gyntaf Ysgol Maes-y-Gwendraeth  ar ddydd Gwener, Chwefror 21ain. Diddanwyd y beiriniad Aled Powys(gynt o Only Men Aloud) a Dyfan Rees (Pobol y Cwm), y  disgyblion a’r staff gan ddawn amryw o unigolion a chorau’r pedwar llys yn uno i ganu un o glasuron y genedl – Dwi isie bod mewn band roc a rôl. Llys Non ysgubodd wobr y côr gorau, gyda llys Arthne yn ennill y darian.

Ond aelod o lys Darog oedd enillydd prif seremoni’r Eisteddfod, y Cadeirio, sef Cellan Evans, disgybl blwyddyn 13. Brodor o Bontaman yw Cellan, yn gyn ddisgybl o Ysgol Gymraeg Rhydaman ac mae’n astudio Cymraeg, Cerdd a Drama Safon Uwch gyda’r gobaith o gael lle yn un o Brifysgolion Llundain i astudio Drama. Cadeiriwyd ei frawd Dafydd Llŷr yn Eisteddfod Maesyryrfa yn 2007.

Ymson ar deimladau oedd tasg Cellan a theimladau arweinydd y caethweision yn y frwydr yn erbyn y Rhufeiniaid oedd sylfaen ei ymson. Nododd y beirniad, Mrs Elsbeth Jones, cyn ddirprwy’r ysgol, fod yr ymson yn gelfydd a chrefftus a bod yr emosiwn o deimladau wrth i’r arweinydd benderfynu  marw dros ei bobl a chyfiawnder, wedi cydio. 
Dyma lun o’r enillydd gyda Phennaeth yr ysgol Mr Iwan Rees a’r disgyblion eraill oedd ynghlwm â’r seremoni

No comments:

Help / Cymorth