Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

8.3.13

Casglu Bagiau


Fel rhan o ymgyrch casglu bagiau Merched y Wawr mae Elan Daniels a Mari Llywelyn wedi bod yn ein hannog i gyflwyno hen fagiau. Maent yn derbyn unrhyw fagiau, mewn unrhyw gyflwr.

Byddant yn cael eu trosglwyddo i gangen Merched y Wawr Rhydaman, ac yna i  Gymorth Cristnogol sef elusen Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr am eleni. Bydd y rhai sydd wedi torri yn cael eu hailgylchu a'r rhai sydd mewn cyflwr da yn cael eu gwerthu ar stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn y llun mae Elan a Mari yn trosglwyddo bagiau i rhai o Ferched y Wawr Gellimanwydd

No comments:

Help / Cymorth