Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

3.3.13

Cantorion yn cyrraedd y brig

Mae côr o ddisgyblion ysgolion uwchradd Sir Gaerfyrddin wedi cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth Côr Cymru 2013 S4C.
Bydd Côr Ysgolion Uwchradd Sir Gaerfyrddin a gafodd ei ffurfio dri mis yn ôl yn cystadlu am le yn y rownd derfynol y mis nesaf.
Gwasanaeth cerdd y Cyngor sy'n trefnu'r côr merched ac mae'r cantorion i gyd yn ddisgyblion yn ysgolion uwchradd y sir. Islwyn Evans, athro cerdd peripatetig, yw arweinydd y côr.
Dywedodd Gareth Kirby, Cydgysylltydd y Gwasanaeth yn Sir Gaerfyrddin ei fod wrth ei fodd â chyflawniad y côr.
"Hwn yw'r tro cyntaf i wasanaeth cerdd y sir roi cynnig ar y gystadleuaeth ac rydym wedi cyrraedd y rownd gynderfynol. Rydym ni'n falch iawn o'r disgyblion a'r staff sy'n cymryd rhan. " meddai.
"Mae Côr Cymru yn un o brif gystadlaethau corawl Cymru. Ffurfiwyd y côr gwta dri mis yn ôl ac mae'r gamp yn adlewyrchu'r doniau lleisiol ardderchog sydd gennym yn Sir Gaerfyrddin."
Cynhelir y rownd nesaf yn Aberystwyth ym mis Chwefror a chaiff ei darlledu ar y teledu ychydig ar ôl hynny.
Ychwanegodd y Cynghorydd Keith Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg: "Carai'r adran addysg longyfarch y disgyblion a'r athrawon ar gyrraedd y rownd gynderfynol. "Mae'n adlewyrchu gwaith caled y disgyblion, y rhieni a'r athrawon ynghyd â'r doniau naturiol sy'n cael eu meithrin gan y gwasanaeth cerdd."

No comments:

Help / Cymorth