Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

25.2.13

Penblwydd Hapus


Cyflwynwn ein dymuniadau da i Dr.Frank Powell a fu’n dathlu ei benblwydd yn 90 mlwydd oed ar Chwefror 22ain.  Bu Dr.Powell yn Feddyg Teulu gyda ni am flynyddoedd lawer a mawr yw’r parch iddo yn y Cwm.  Penblwydd hapus iawn, Dr.Powell, a gobeithio y bydd sawl blwyddyn arall o’ch blaen i’w dathlu. 

Hefyd, bydd ei wraig annwyl, Mrs.Muriel Powell yn dathlu ei phenblwydd yn 91 oed ar yr 13eg o Fawrth eleni.  Pob dymuniad da iddynt i’r dyfodol a mwy na dim, iechyd da.

 

No comments:

Help / Cymorth